Dros Sectorau Eraill
Os yw'ch sefydliad yn dod o fewn un o'r sectorau Archeb Gychwynnol, ond heb ei enwi fel sefydliad archeb gychwynnol, yna dylech gysylltu â swyddfa prosiect y PSBA yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, neu â'ch cynrychiolydd sector er mwyn trafod dod yn sefydliad sy'n derbyn. Bydd angen i bob sefydliad nodi'r gwasanaethau cysylltedd mwyaf priodol a thrafod trefniadau cyllido. Mewn rhai achosion mae arian yn cael ei ddarparu drwy gyllidebau lleol ac mewn achosion eraill drwy gyllidebau ar y cyd.
Os yw'ch sefydliad y tu allan i'r sectorau Archeb Gychwynnol, yna fyddwch chi ddim yn gallu archebu gwasanaethau yn ystod y cyfnod archebu cychwynnol. Serch hynny, dylech gysylltu â Thîm Prosiect y PSBA yn Llywodraeth Cynulliad Cymru i gofrestru eich diddordeb yn y Rhwydwaith PSBA mewn cam gweithredu dilynol. Bydd Tîm Prosiect y PSBA'n esbonio'r broses ymgysylltu, yn edrych ar y model cyllido ar gyfer eich sector neu'ch sefydliad ac yn gweithio gyda chi ar y prosesau o ymuno â'r Rhwydwaith PSBA.
Sefydliadau Eraill
Mae llawer o sefydliadau sector cyhoeddus eraill yng Nghymru. Mae gan bob un ohonynt anghenion o ran gwybodaeth a chyfathrebu. Mae gan lawer ohonynt eu rhwydweithiau eu hunain. Mae'r rhain yn cynnwys: -
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Llywodraeth Cynulliad Cymru
- Rhwydweithiau Gwasanaethau Brys
- Awdurdod y Parciau Cenedlaethol
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru
- Y Gwasanaeth Amgueddfeydd
- Traffig Cymru
- Amgylchedd Cymru
- Sefydliadau'r Sector Gwirfoddol



