Iechyd
Rhwydweithiau GIG Cymru
Am yn agos i 20 mlynedd mae Rhwydwaith Digidol GIG Cymru Gyfan wedi bod yn sylfaen dechnolegol i GIG Cymru, yn cludo holl yfathrebu llais, data a fideo dros un rhwydwaith.
Bydd defnyddio techneg a thechnolegau fideo newydd yn cael effaith radical ar ansawdd bywyd cleifion gyda chyflyrau hirdymor, yn ogystal รข lleihau faint o amser y maen nhw'n ei dreulio yn yr ysbyty.
Mae GIG Cymru hefyd yn gwneud y defnydd gorau posibl o'r Rhyngrwyd. Mae gan weithwyr clinigol proffesiynol sy'n gweithio o'u cartrefi'r gallu i gael mynediad at wybodaeth allweddol drwy ddefnyddio band eang diogel.
Gofal Sylfaenol a Gofal Eilaidd
Ar hyn o bryd mae GIG Cymru wedi cysylltu pob practis meddyg teulu a meddygfeydd cangen yn uniongyrchol i rwydwaith Cymru Gyfan y GIG.
Mae gan y 10 Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru o leiaf un cysylltiad mawr gyda'r isadeiledd craidd hwn. Ar ben hyn, maen nhw'n gweithredu ac yn rheoli eu rhwydwaith lleol eu hunain, yn estyn allan i bob un o leoliadau'r ymddiriedolaeth.
Ar lefel uwch, mae GIG Cymru wedi'i gysylltu gyda nifer o strwythurau GIG y DU er mwyn sicrhau cyfathrebu rhwng Cymru, Lloegr a'r Alban.
I GIG Cymru, ymysg pethau eraill, gall Rhwydwaith y PSBA fod yn alluogydd ar gyfer cydweithio a chydlynu mwy effeithiol ar draws sectorau. Drwy ymestyn cyfuniad, gellir datblygu ymhellach y cysylltedd rhwng gwasanaethau iechyd, cymdeithasol ac addysg i gefnogi gweithio amlasiantaethol, gan adeiladau ar y cynnydd sydd wedi digwydd hyd yn hyn.



