Maint y Testun: A | A | A

Galluogi Cyflenwi Gwasanaethau

Gwasanaethau

Mae gwasanaethau rhwydwaith PSBA yn diwallu anghenion amrywiaeth o gwsmeriaid, o sefydliadau bach â gofynion cymharol syml, i wasanaethau neu gymunedau gwasanaeth mawr iawn sy'n defnyddio lled band uchel ac sydd ag anghenion uwch o ran TGCh, cyfathrebu a chydweithredu.

Mae rhwydwaith PSBA yn llwyfan gwybodaeth hyblyg, graddedig a thryloyw sy'n galluogi'r rhai hynny yn y sector cyhoeddus i gyflwyno'r gwasanaethau gorau am y pris gorau i bobl Cymru.

Gwasanaethau Rhwydwaith Craidd

  • Lled band rhwng 1Mbps ac 1Gbps
  • Mynediad i'r Rhyngrwyd a Gwasanaethau Pyrth
  • Gallu aml-gast a gwasanaethau cyfeirio IP
  • Gwasanaethau System Enw Parth (DNS) a chofrestrfa parth
  • Hidlo Cynnwys i fodloni safonau'r Internet Watch Foundation
  • Cysylltiadau diogel ag adnoddau a rennir ac er mwyn rhannu gwasanaethau
  • Cyrchiad Pell

Yn y rhan fwyaf o achosion, gall defnyddwyr terfynol ddewis gofyn am wasanaethau ychwanegol ar gost y cytunir arni.

Gwasanaethau Rhwydwaith Uwch

Gall rhwydwaith PSBA, yn ogystal â'r gwasanaethau rhwydwaith craidd, ddarparu:

  • Gwasanaethau waliau tân a reolir
  • Gwasanaethau Cyfieithu Cyfeiriadau Rhwydweithiau Lleol (NAT)
  • Adnoddau gwell i hidlo cynnwys
  • Gofynion hydwythedd wedi'u teilwra
  • Gwasanaethau terfynu Rhwydwaith Preifat Rhithiwr lleol
  • Cymorth ar gyfer traffig sydd wedi'i Farcio'n Ddiogel hyd at CYFYNGEDIG

Gwasanaethau Proffesiynol

Er mwyn sicrhau newid esmwyth i rwydwaith PSBA, a sicrhau bod gwasanaeth y rhwydwaith yn bodloni seilwaith a safonau technegol unigol, mae ymgynghorwyr technegol ar gael i ddarparu'r gwasanaethau canlynol.

  • Cyngor technegol gan gynnwys cynllunio capasiti
  • Gwasanaeth ymgynghori ar ddylunio ac optimeiddio'r Rhwydwaith
  • Cyngor ar weithredu offer uwch o ran Protocol Llais dros y Rhyngrwyd, dulliau cyfathrebu unedig neu ddulliau cyfathrebu fideo


 

Design and build by Purestone, powered by Pepperio