Ebrill 2008: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn sicrhau bargen band eang newydd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi sicrhau bargen newydd sy’n rhwystro prisiau i’n Hysgolion am eu Gwasanaethau Band Eang am hyd at saith mlynedd rhag codi.
Mae’r Cyngor wedi mynd yn groes i duedd genedlaethol, sydd wedi gweld y taliadau a godir ar ysgolion am Fand Eang yn codi hyd at 27 y cant, drwy lofnodi’r dêl gyda Logicalis a fframwaith Cydgasglu Band Eang sector cyhoeddus Llywodraeth Cynulliad Cymru.
 14,000 o weithwyr a 288 o safleoedd, mae’r Cyngor yn dibynnu ar fand eang cyflymder uchel, cynhwysedd uchel am ei gyfathrebiadau llais a data i gynnal ei fusnes a’r gwasanaethau mae’n eu cyflwyno o ddydd i ddydd.
Mae telerau’r contract newydd yn caniatáu i’r Cyngor archwilio camau effeithlonrwydd pellach drwy rannu ei rwydwaith cymdogaeth â chyrff cyhoeddus eraill ledled rhanbarth RhCT.
Dywed Leigh Gripton, Cyfarwyddwr Gwasanaeth (Gofal Cwsmer a TGCh), “Pan edrychwch ar faint y Cyngor hwn, nifer y bobl rydym yn eu cyflogi’n lleol a nifer fawr y gweithrediadau rydym yn eu gwneud drwy gyfrwng e-bost, ffôn, y rhyngrwyd a thrwy systemau busnes mewnol, gellwch weld pam mae’n hanfodol fod gennym ni rwydwaith band eang cadarn ac effeithiol.
“Rydym wrth ein bodd o fod wedi gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddyfarnu contract i Logicalis sy’n rhoi gwell gwerth am arian a chyfleoedd i gydweithredu â chyrff cyhoeddus eraill”.
