Maint y Testun: A | A | A

Galluogi Cyflenwi Gwasanaethau

Ebrill 2008: Gweithdai Rhwydwaith PSBA yn digwydd ledled Cymru

Daeth dros 100 o gynrychiolwyr o gyrff sector cyhoeddus o bob rhan o Gymru i gyfres o weithdai yn ystod Ebrill 2008. Roedd y gweithdai’n fodd i gyrff partner Rhwydwaith PSBA, darpar ddefnyddwyr, tîm prosiect PSBA a chyflenwr Rhwydwaith PSBA  – Logicalis – ddod ynghyd mewn tri man yng Ngogledd, Canolbarth a De Cymru. Nod y gweithdai oedd rhoi i gynrychiolwyr y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y prosiect, cadarnhau ymrwymiad ac arddangos yr hyn y gall y gwasanaeth a’r rhwydwaith ei gynnig.

Hefyd rhoddodd y gweithdai gyfle i gwrdd ac i drafod gofynion rhwydwaith penodol gyda’r cyflenwr dewisol, Logicalis UK. Os hoffech dderbyn gwybodaeth am ddigwyddiadau yn y dyfodol llenwch y ffurflen gysylltu.

Design and build by Purestone, powered by Pepperio