Maint y Testun: A | A | A

Galluogi Cyflenwi Gwasanaethau

Dod yn gwsmer ac archebu gwasanaethau

Pa sefydliadau all ddefnyddio gwasanaethau PSBA?

Yn ystod y cyfnod gweithredu cyntaf (yr Archeb Gychwynnol), caiff Rhwydwaith PSBA ei ddefnyddio gan dri grŵp yng NghCymru

  • Iechyd
  • Llywodraeth Leol
  • Addysg Uwch ac Addysg Bellach

Mae nifer o sefydliadau ym mhob pob un o’r sectorau hyn yn gymwys i dderbyn gwasanaethau cysylltedd yn yr archeb gychwynnol. Os nad yw eich sefydliad wedi ei enwi’n un o sefydliadau’r archeb gychwynnol yna dylech gysylltu â swyddfa brosiect PSBA yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, neu gynrychiolydd eich sector i drafod dod yn sefydliad cyyfrannog.

<yn ôl i’r brig>

A allaf gael gwasanaethau PSBA os yw fy sefydliad mewn sector gwahanol?

Os yw’ch sefydliad chi y tu allan i sectorau’r Archeb Gychwynnol, yna ni fyddwch yn gallu archebu gwasanaethau yn ystod cyfnod yr archeb gychwynnol. Fodd bynnag, dylech gysylltu â Thîm Prosiect PSBA yn Llywodraeth Cynulliad Cymru i gofrestru’ch diddordeb yn Rhwydwaith PSBA yn ystod cyfnod gweithredu dilynol. Bydd Tîm Prosiect PSBA yn esbonio’r broses ymgysylltu, yn archwilio’r model ariannu ar gyfer eich sector neu’ch sefydliad chi ac yn gweithio gyda chi ar y prosesau ymuno â Rhwydwaith PSBA.

<yn ôl i’r brig>

Beth yw Cytundeb Cysylltu?

Er mwyn derbyn gwasanaethau rhwydwaith, rhaid i sefydliad cymwys gael ei gydnabod yn Sefydliad Derbyn drwy gwblhau Cytundeb Cysylltu PSBA.

Mae Cytundeb Cysylltu PSBA yn gytundeb rhwng sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru a Logicalis i gyflenwi gwasanaethau rhwydwaith o dan Gontract PSBA. Mae’n caniatáu i Sefydliadau Cyfrannog i roi archebion am wasanaethau i’w cyflwyno i un neu ragor o safleoedd sydd o dan reolaeth gyffredinol y Sefydliad Cyfrannog, yn ddarostyngedig i gytundeb i ariannu gwasanaethau o’r fath.

  • Nid yw llofnodi’r Cytundeb Cysylltu yn rhwymo sefydliad i wario arian nac archebu gwasanaethau

Nid yw’r Cytundeb Cysylltu ynddo ei hun yn disgrifio gwasanaethau sydd i’w cyflwyno na threfniadau i dalu costau’r gwasanaethau hyn. Mae’n gytundeb galluogi i ganiatáu cyflwyno gwasanaethau, naill ai fel rhan o wasanaethau’r Archeb Gychwynnol (hynny yw, y gwasanaethau hynny lle mae’r arian eisoes wedi ei gytuno) neu’n geisiadau am wasanaeth ychwanegol sydd i’w hariannu’n uniongyrchol gan y Sefydliad Cyfrannog.

  • Mae’r Cytundeb Cysylltu yn diffinio pwy ddylai siarad â phwy wrth archebu a rheoli gwasanaethau

Wrth wneud cais am wasanaethau ychwanegol, mae opsiynau ar gael i ofyn am ddyfynbrisiau, diffinio gwasanaethau, gofyn am gymorth technegol, rhoi archebion, cytuno ar ddyddiadau gosod, derbyn gwasanaethau, profi gwasanaethau a derbyn adroddiadau am wasanaethau. Bydd pob un o’r rhain yn golygu deialog rhwng Logicalis a’r Sefydliad Cyfrannog. Mae’r Cytundeb Cysylltu yn darparu cyd-destun contractiol i’r rhyngweithio hwn ddigwydd ynddo.

Mae’r Cytundeb Cysylltu wedi cael ei gyhoeddi o dan Gontract PSBA gan Logicalis, a gafodd ei lunio a’i gyd-drafod gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gan weithio gyda chynghorwyr technegol, masnachol a chyfreithiol mewnol ac allanol.

<yn ôl i’r brig>

Beth sy’n cael ei gynnwys o dan gytundeb cysylltu?

Cytundeb rhwng Logicalis a’r Sefydliad Cyfrannog yw’r Cytundeb Cysylltu. Mae iddo naw adran sy’n ymdrin â gwasanaethau ac un ar ddeg sy’n ymwneud â darpariaethau cyffredinol.

  • Archebion: Mae’r adran hon yn angenrheidiol i adael i Sefydliad Cyfrannog wneud cais yn gyfreithlon am Wasanaethau Cysylltedd o dan Gontract PSBA;
  • Parodrwydd y Gwasanaeth: Mae’r adran hon yn cadarnhau y bydd Logicalis, ar ôl i wasanaethau newydd gael eu gosod, yn dangos i unigolion a enwir bod y gwasanaeth yn gweithio yn unol â Disgrifiad y Gwasanaeth Cysylltedd;
  • Mynediad: Mae’r adran hon yn cadarnhau y bydd Logicalis a’i isgontractwyr penodedig, ar ôl i archeb gael ei rhoi, yn cael mynediad i’r safle o dan reolaeth a goruchwyliaeth y Sefydliad Cyfrannog, fel y disgrifir yn Nisgrifiad y Gwasanaeth Cysylltedd;
  • Porth y Gwasanaeth: Dyma’r ymrwymiad gan Logicalis i ddarparu mynediad ar gyfer unigolion a enwir y bydd arnynt angen mynediad i Wefan Cwsmeriaid PSBA o bosibl. Mae’r wefan yn cael ei defnyddio i ddisgrifio gwasanaethau, sefydlu archebion a monitro perfformiad gwasanaeth. Mae’n caniatáu hefyd ar gyfer adrodd am diffygion a statws gwasanaeth ac olrhain gwallau;
  • Cynrychiolwyr Awdurdodedig: mae’r adran hon yn disgrifio’r ymrwymiad gan Logicalis a’r Sefydliad Cyfrannog ill dau i gadw rhestr gyffredin o bwyntiau cyswllt a enwir sy’n ymgymryd â rolau allweddol i gefnogi cyflwyniad gwasanaethau PSBA;
  • Cydymffurfio gan y Sefydliad Cyfrannog: Mae’r adran hon yn ymrwymiad gan y Sefydliad Cyfrannog i sefydlu a chadw at Bolisi Defnydd Derbyniol lleol neu un sy’n benodol i’r Sector ar gyfer cysylltu â gwasanaethau rhwydweithio ardal eang. Mae’r adran hon yn rhoi manylion beth mae angen ei gynnwys, o leiaf, yn y Polisi Defnydd Derbyniol;
  • Taliadau: Mae’r adran hon yn cadarnhau y bydd y Sefydliad Cyfrannog yn talu am y gwasanaethau y gofynnir amdanynt o dan y Cytundeb Cysylltu. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cytuno i rai trefniadau penodol i ariannu Gwasanaethau o fewn yr Archeb Gychwynnol;
  • Perfformiad y Gwasanaeth:  Ymrwymiad gan Logicalis yw hwn i gyflwyno gwasanaethau, ar ôl i’r gwasanaeth lwyddo mewn profion, yn unol â’r ansawdd a’r safonau a ddisgrifir yn Nisgrifiad y Gwasanaeth Cysylltedd;
  • Methiant y Gwasanaeth: Ymrwymiad gan Logicalis yw hwn i gredydu (i Lywodraeth Cynulliad Cymru) ryw gyfran o gostau’r gwasanaeth, petai cyflwyniad y gwasanaeth yn syrthio islaw’r lefelau a bennir yn Nisgrifiad y Gwasanaeth Cysylltedd. Mae dosbarthiad pellach credydau gwasanaeth o’r fath yn cael ei reoli gan Fwrdd Rheoli PSBA.

<yn ôl i’r brig>

Pa wasanaethau sydd ar gael?

Mae rhestr o wasanaethau ar gael o dan Yr hyn rydym yn ei wneud, Gwasanaethau Rhwydwaith ac adrannau Technegol y wefan hon.

<yn ôl i’r brig>

Sut mae archebu gwasanaethau?

Mae’r archeb gychwynnol yn cynrychioli cais am wasanaeth swmp o wasanaethau cysylltedd i ryw 1000 o safleoedd. Mae’r broses ymgysylltu yn cynnwys

  • Sefydlu cysylltiad
  • Esbonio’r gwasanaethau arfaethedig

<yn ôl i’r brig>

Design and build by Purestone, powered by Pepperio