Maint y Testun: A | A | A

Galluogi Cyflenwi Gwasanaethau

Technegol

Galluoedd?

Caiff y Gwasanaethau Isadeiledd Craidd eu darparu yn ôl gallu o 2.5Gbps yn ystod 2008. Gall hyn gael ei gynyddu yn y dyfodol, petai angen, drwy gyfrwng yr Awdurdod Dylunio Technegol.

Gall safleoedd unigol archebu Gwasanaethau Cysylltedd ar amrywiaeth o alluoedd sy’n amrywio o wasanaethau DSL 1Mbps i gysylltiadau sefydlog 1Gbps.

Gallwn drefnu bod gwasanaethau tu allan i’r cynigion gwasanaeth cychwynnol hyn ar gael petai angen, yn amodol ar gadarnhad gyda’r Cyflenwr PSBA.

Pyrth?

Mae mynediad sy’n cael ei reoleiddio a’i reoli i nifer o byrth a rhyng-gysylltiadau ar y gweill neu’n gallu cael ei ddarparu fel a ganlyn:

  • At anghenion iechyd, rhwydwaith N3, a ddefnyddir gan y GIG yn Lloegr.
  • Super Janet 5, a ddefnyddir gan y sectorau AC ac AB a Llywodraeth Leol yn Lloegr.
  • Pyrth posibl yn y dyfodol gan gynnwys mynediad i GCSX

Ansawdd y Gwasanaeth?

Mae rhwydwaith PSBA yn cynnig model Ansawdd Gwasanaeth chwe haen yn safonol ar bob cysylltiad ac eithrio’r un mwyaf sylfaenol.  Caiff y rheolaeth traffig, mapio a’r gwerthoedd sy’n gysylltiedig â’r model Ansawdd Gwasanaeth eu sefydlu drwy ymgynghori â phob Sector.  Caiff y modelau hyn eu rheoli a’u diffinio gan y Sectorau.

 

Design and build by Purestone, powered by Pepperio