Gwasanaethau Rhwydwaith
Mae rhwydwaith PSBA yn darparu gwasanaethau i fodloni ystod amrywiol o anghenion Gwasanaethau Cyhoeddus, o grwpiau defnyddwyr bach â gofynion cymharol syml i gymunedau mawr iawn sy’n defnyddio lled band a ffwythiannaeth uchel. Daw’r gwasanaethau hyn o bob rhan o’r diwydiant telegyfathrebu i gyflwyno ateb teilwredig i bob math o ddefnyddiwr, a bydd y rhain yn datblygu yn ystod oes y rhwydwaith i fodloni anghenion sy’n dod i’r amlwg ac i fanteisio i’r eithaf ar yr atebion diweddaraf.
Mae defnyddwyr yn cael mewnwelediad unigryw i’r gwasanaeth a rheolaeth dros eu gwasanaethau drwy borth seiliedig ar y we sy’n darparu llawer o’r wybodaeth sy’n hanfodol i fusnes mae arnynt ei hangen (gan gynnwys lefelau gwasanaeth misol). Mae’r rhwydwaith yn caniatáu defnydd cymwysiadau a gynhelir, systemau llais a fideo, ac yn cyflwyno’r potensial i gydweithredu a rhannu gwybodaeth â sectorau eraill.
Mae bron pob elfen o’r rhwydwaith trwyadl hwn yn cael ei hadeiladu drwy ddefnyddio portffolio Cisco Systems – gan gynnig pensaernïaeth graidd gyffredin y gall ei hamrywiol elfennau cyfansawdd gael eu cynnal, eu hintegreiddio a’u huwchraddio’n rhwydd.
Y canlyniad yw llwyfan gwybodaeth hyblyg a thryloyw â graddfa amrywiol sy’n galluogi’r rhai yn y sector cyhoeddus i gyflwyno’r gwasanaethau gorau am y pris gorau i bobl Cymru.
Gwasanaethau isadeiledd a chefnogaeth craidd
Bydd y contractiwr (Logicalis) yn cyflenwi’r gwasanaethau canlynol fel rhan o unrhyw gytundeb gwasanaeth:
Gwasanaethau Galluogi Craidd:
- Cyngor Technegol
- Cynllunio Cynhwysedd
- Mynediad o Bell
- Gwasanaeth Ffurfweddu CPE
- Gwasanaeth Cefnogaeth a Datrys Gwallau
- Gwasanaethau Mynediad i’r Rhyngrwyd a Phorth
- Profi Cymwysiadau
- Gwasanaethau gallu amlgast IP a chyfeiriadau
- Gweithredu newid effeithlonrwydd gan gyflwyno rhwydwaith diogel drwy ddiweddariadau ac ati
- Gwasanaethau System Enw Parth (DNS) a chofrestru parth
- Hidlo Cynnwys i fodloni Safonau Sefydliad Gwarchod y Rhyngrwyd
- Desg gymorth a datrys gwallau
- Ymgynghoriaeth ar ddylunio ac uchafu rhwydweithiau
- Cysylltiadau diogel ag adnoddau rhanedig ac i alluogi gwasanaethau rhanedig
Click the image for a larger version
Mae’r holl wasanaethau a ddisgrifir yn y ddogfen hon yn ddiogel iawn ac yn destun adroddiad misol manwl oddi wrth y Darparwr Gwasanaethau Rhwydwaith - Logicalis – sy’n amlinellu perfformiad yn erbyn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth. Gan amlaf, bydd gan ddefnyddwyr terfynol opsiwn o ofyn am nodweddion ychwanegol am gost ychwanegol a gytunir. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Gwasanaeth Mur Gwarchod a reolir
- Lled band cynyddol
- Lefelau gwasanaeth gwell
- Gwydnwch
- Hidlo Cynnwys Gwell
- Gwasanaethau terfynu VPN lleol
- Cefnogaeth am draffig wedi ei farcio’n amddiffynnol hyd at GYFYNGEDIG
- Gwasanaethau NAT lleol
- Contract estynedig (y dewis i estyn i gontract 5 mlynedd safonol 1 neu 3 blynedd).
