Cwestiynau Cyffredin
- Cwmpas y gwasanaeth
- Cwmpas y rhwydweithio ardal eang a ddarperir?
- Pa wasanaethau y byddaf yn eu cael?
- Beth fydd enwau’r gwasanaethau?
- A gaf fi brynu estyniadau LAN a gwasanaethau cyfwerth?
- Pa strwythurau llywodraethu sydd yna?
- Pa rôl fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru a thîm canolog PSBA yn ei chwarae?
Cwmpas y gwasanaeth
Ar gam cyntaf y broses o ddarparu'r gwasanaeth, mae gwell cysylltiadau rhwydweithio ardal eang wedi'u darparu i'r canlynol:
- GIG Cymru
- 22 o Awdurdodau Unedol
- Sefydliadau addysg bellach ac uwch
Mae rhwydwaith PSBA wrthi nawr yn ehangu i ddarparu gwasanaethau i amrywiaeth ehangach o sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus a allai gynnwys:
- Llywodraeth Cynulliad Cymru
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru
- Gwasanaethau Tân ac Achub
- Gwasanaeth y Parciau Cenedlaethol
- Gwasanaeth amgueddfeydd
- Unrhyw sefydliad arall sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru dros Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar ei rhan neu wasanaethau cyhoeddus a ariennir ganddi.
Cwmpas y rhwydweithio ardal-eang a gaiff ei ddarparu?
Mae gwasanaethau PSBA yn ymrannu’n ddau gategori bras o wasanaeth: Gwasanaethau Isadeiledd Craidd a Gwasanaethau Cysylltedd.
Gwasanaethau Seilwaith Craidd
Mae’r isadeiledd craidd yn cynnwys datblygu a defnyddio’r rhwydwaith ei hun a darparu gwasanaethau cefnogaeth fel desg gymorth; gwasanaeth porth; gwasanaeth monitro; adrodd; cefnogaeth bilio a dylunio technegol. Yn fras, dyma’r gwasanaethau y bydd eu hangen ar y mwyafrif o ddefnyddwyr gwasanaeth, os nad pob un.
Gwasanaethau Cysylltedd
Mae’r gwasanaethau cysylltedd yn cael eu disgrifio fel ystod o opsiynau sy’n caniatáu i ddefnyddwyr gwasanaethau gysylltu â defnyddwyr gwasanaeth a phyrth eraill. Gall y cysylltiadau hyn gael eu cyflwyno drwy gyfrwng y rhwydwaith craidd neu fel cysylltiadau pwynt i bwynt.
Pa wasanaethau fyddaf yn eu cael?
Mae gwasanaethau sy’n cael eu cyflwyno i sefydliadau sy’n ddefnyddwyr terfynol yn cael eu disgrifio yn y Disgrifiadau gwasanaethau cysylltedd ond yn y bôn maent yn ystod o wasanaethau cyfathrebu a fydd yn rhoi i sefydliadau gysylltiad ffisegol â’r Rhwydwaith PSBA Craidd. Mae’r Disgrifiadau gwasanaethau cysylltedd yn ddogfennau hunan-gynhwysol sy’n disgrifio union natur y gwasanaethau a gaiff eu cyflwyno.
Bydd y Gwasanaethau Isadeiledd Craidd yn darparu’r amlapio cysylltedd a gwasanaeth sy’n cefnogi cyflwyniad Gwasanaethau Cysylltedd. Mae hyn yn cynnwys y rheolaeth a’r gefnogaeth sy’n gadael i ddefnyddwyr o bob Sector rannu Rhwydwaith PSBA.
Yn y pen draw bydd gan bob sefydliad ddewis o ran y gwasanaethau sy’n cael eu cyflwyno. Mae hyn yn caniatáu i benderfyniadau lleol ac achosion busnes gael eu datblygu yn unol â gofynion ac anghenion lleol.
Bydd dewisiadau am gynhwysedd (lled band), dibynadwyedd (argaeledd a gwydnwch), technoleg a diogelwch i gyd yn effeithio ar bris gwasanaethau. Mae angen cydbwyso penderfyniadau o’r fath yn erbyn y gost a’r blaenoriaethau lleol. Hefyd mae cymhellion gwleidyddol a pholisi sy’n effeithio ar y gwasanaethau sydd i’w gweithredu dros y rhwydwaith. Yn olaf, mae cyfuniad o arian lleol ac arian canolog yn effeithio ar ble mae’r penderfyniad terfynol am ofynion gwasanaeth yn cael ei wneud a bydd hyn yn amrywio rhwng Sectorau.
Beth fydd y gwasanaethau yn cael ei alw?
Am y misoedd cyntaf, bydd y prosiect yn dal i gael ei adnabod fel prosiect Cydgasglu Galw'r Sector Cyhoeddus am Fand Eang (PSBA) Cymru.
Yn ystod y cyfnod cychwyn hwn, bydd y cyflenwr yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a phartneriaid eraill i nodi enw brand, delwedd a phresenoldeb marchnata priodol ar gyfer y gwasanaethau.
Caiff canlyniad yr ymarfer brandio hwn ei gyhoeddi wrth gychwyn cyflwyno’r gwasanaethau newydd ar ôl cyflawni cerrig milltir 2 a 3.
A allaf brynu estyniadau LAN a gwasanaethau cyfatebol?
Gellwch. Mae contract PSBA wedi ei sefydlu i adael i’r cyflenwr gaffael amrywiaeth o gynigion gwasanaeth cysylltedd, yn unol â gofynion y gymuned defnyddwyr. Cysylltwch â Logicalis i gael manylion.
Pa strwythurau llywodraethu sydd yn eu lle?
Mae’r strwythurau llywodraethu wedi cael eu sefydlu i fod mor gynhwysol â phosibl i bob partner. Mae hyn yn cynnwys:
- Bwrdd strategaeth PSBA
- Bwrdd rheoli PSBA
- Y tîm gweithredu a chyflwyno gwasanaeth
- Yr awdurdod dylunio technegol
- Y bwrdd ymgynghorol ar newid
Hefyd, y mae nifer o gymunedau a grwpiau rhanddeiliaid PSBA, gan gynnwys:
Iechyd
Fel gydag elfen gaffael PSBA, bydd Hysbysu Gofal Iechyd yn parhau i hwyluso’r symudiad at y gwasanaeth PSBA. Bydd Bwrdd Prosiect diwygiedig ac is-grŵp cysylltiol yn dod yn gyfrifol am reoli’r rhaglen fudo hon ar ran GIG Cymru, fel a ganlyn:
- PSBA dros Iechyd – Bwrdd y Prosiect Gweithredu
- PSBA dros Iechyd – Grŵp Rhanddeiliaid (is-grŵp Bwrdd y Prosiect)
Llywodraeth Leol
- Is-grŵp PSBA – SOCITM – (Mae strwythur terfynol y cynrychiolwyr wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd
Addysg Uwch ac Addysg Belach
- Is-grŵp PSBA
Pa strwythurau llywodraethu sydd yn eu lle?
Mae’r strwythurau llywodraethu wedi cael eu sefydlu i fod mor gynhwysol â phosibl i bob partner. Mae hyn yn cynnwys:
- Bwrdd rhaglen PSBA
- Bwrdd rheoli PSBA
- Y grŵp cyflwyno gweithredol
- Yr awdurdod dylunio technegol
- Y bwrdd cynghori ar newid
Yn ogystal mae nifer o gymunedau a grwpiau rhanddeiliaid PSBA ychwanegol.
Beth fydd rôl Llywodraeth Cynulliad Cymru?
Cadarnhau bod gweithgareddau adeiladu craidd Logicalis wedi’u cynllunio’n dda, gan gynnwys partneriaid fel bo’n briodol, ac ar y trywydd cywir i gyrraedd y cerrig milltir.
Adeiladu craidd a datblygu:
Cadarnhau bod gweithgareddau adeiladu craidd Logicalis yn cael eu cynllunio’n dda, gan gynnwys partneriaid fel y bo’n briodol, a’u bod yn dilyn yr amserlen i gyrraedd y cerrig milltir.
Rheoli’r gwasanaeth:
Gweithio gyda Logicalis i sicrhau bod rheoli gwasanaeth priodol sy’n gydsyniol ag ITIL yn cael ei ddatblygu yn unol â gofynion y contract a chan fodloni disgwyliadau’r partneriaid.
Marchnata a chyfathrebu:
- Cyhoeddusrwydd allanol i ddyfarnu’r contract
- Cyhoeddi’r negeseuon allweddol a’u cadw’n gyfredol
- Negeseuon cyson i bartneriaid
Rheoli’r cyfrif:
- Annog Sectorau newydd i ymuno
- Cadarnhau cytundebau Cysylltu â sectorau a sicrhau eu bod yn cael eu llofnodi gan y Sefydliadau sy’n Derbyn Archebion Cychwynnol
Archebu a sefydlu cychwynnol:
- Monitro sut mae Logicalis yn cyflawni dilysu, yn cynllunio ac yn cyflwyno’r archeb gychwynnol
- Peilot o DSL iechyd
Profi:
- Sicrhau bod Logicalis yn datblygu sgriptiau prawf ar gyfer profion carreg milltir, adolygu drwy’r strwythur llywodraethu a gweithredu.
Masnachol:
- Cyfarfodydd adolygu contract
- Gwasanaethau contractiol a gaiff eu cyflwyno
- Model ariannol ac adrodd
- Llifoedd cyllid
- Derbyn, dilysu a thalu anfonebau.
Rheoli newid:
- Darparu pwynt cyswllt ar gyfer swyddogaeth rheoli newid cyflenwr PSBA
Cynigion llywodraethu:
- Eu tynnu o’r contract a ffynonellau eraill
- Dogfen fel un set unigol o gynigion
Llywodraethu’r prosiect:
- Poblogi byrddau llywodraethu
- Sicrhau presenoldeb a chynrychiolaeth gyson
Diogelwch:
- Sicrhau bod Logicalis yn cyflawni achrediad diogelwch
