Maint y Testun: A | A | A

Galluogi Cyflenwi Gwasanaethau

Beth Rydym yn ei Wneud


Mae rhwydwaith PSBA yn rhwydwaith cenhedlaeth nesaf sy'n darparu un llwyfan cyfnewid gwybodaeth a chyfathrebu ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru. 

Drwy gydgasglu'r galw am gysylltiad cyflym ar un seilwaith ffisegol gan ddefnyddio technolegau cyfathrebu rhithwir, rydym yn creu arbedion cost ynghyd â phosibiliadau di-ddiwedd ar gyfer cydweithredu.

Mae'r rhwydwaith yn wasanaeth arloesol a rennir gan y sector cyhoeddus.

Mae'n cysylltu â rhwydweithiau presennol yn y sector cyhoeddus gan gynnwys JANET, N3 a GCSx, yn cysylltu Cymru â'r sector cyhoeddus ehangach yn y DU ac yn bodloni'r holl gategorïau a thystysgrifau diogelwch perthnasol.

Mae rhwydwaith PSBA yn gwneud y canlynol; 

  • Darparu gwasanaethau lluosog, diogel a hydwyth gan drosglwyddo data yn gyflym
  • Cynnal cymwysiadau fel teleffoni a fideogynadledda
  •  Meddu ar led band graddedig ac ymraniadau rhesymegol diogel
  •  Galluogi sefydliadau sy'n rhan ohono i weithio'n fwy effeithiol gyda'i gilydd
  • Lleihau costau oherwydd arbedion maint a thrwy osgoi dyblygu
  • Sicrhau safonau cyffredin gan sicrhau gweithrediad gwell
  • Cynnig cyrhaeddiad rhwydwaith estynedig i Wasanaethau Cyhoeddus ledled Cymru
  • Ysgogi newid ar draws prosesau presennol a sefydliadau

Gall rhwydwaith PSBA effeithio ar bob agwedd ar wasanaethau cyhoeddus, o lywodraeth leol i iechyd, addysg a gwasanaethau brys ac ymhob rhan o Gymru.

 

Design and build by Purestone, powered by Pepperio