Croeso i Rwydwaith Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA)
Gwasanaeth cyfathrebu cenedlaethol cydweithredol a arweinir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yw rhwydwaith PSBA (Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus) sydd, ar y cyd â sefydliadau mawr sector cyhoeddus eraill Cymru, wedi creu llwyfan gwybodaeth a chyfathrebu cenedlaethol er mwyn sicrhau gwell effeithlonrwydd a mwy o botensial i gydweithredu, gan helpu i ddarparu gwasanaethau gwell i bobl Cymru.
Datblygwyd a chyflawnwyd y rhwydwaith fel prosiect cydweithredol â rhanddeiliaid allweddol ym maes Llywodraeth Leol, Iechyd ac Addysg, ac fe'i defnyddir bellach gan Awdurdodau Unedol, Ysbytai, Meddygon Teulu, Prifysgolion, Colegau Addysg Bellach, Gwasanaethau Brys, a nifer gynyddol o sefydliadau a ariennir gan y sector cyhoeddus.
Mae rhwydwaith PSBA wedi bod yn cysylltu defnyddwyr ers dechrau 2008, ac mae'n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau cyfathrebu, yn cynnal traffig llais, fideo a data, ac ar hyn o bryd mae'n darparu gwasanaeth cyfathrebu diogel, cyflym a dibynadwy i fwy na 2000 (Mawrth 2010) o wefannau sector cyhoeddus ledled Cymru.
Cafodd y gwasanaeth cyfathrebu unigryw ac arloesol hwn ar gyfer y sector cyhoeddus, un o'r Rhwydweithiau Sector Cyhoeddus (PSN) cwbl integredig cyntaf, ei ddatblygu, ei gynllunio a'i adeiladu yng Nghymru er mwyn diwallu anghenion penodol sector cyhoeddus Cymru.
